Rhif y ddeiseb: P-05-1441

Teitl y ddeiseb: Dylai Cadw roi gwarchodaeth statudol i Dderwen Adwy’r Meirwon fel coeden hynafol

Geiriad y ddeiseb: Mae’r Goeden hynafol hon, sydd dros fil o flynyddoedd oed, yn fregus iawn ar ôl i droseddwyr dargedu sawl coeden yn ddiweddar.

Mae’r goeden yn cynrychioli man pwysig sy’n gysylltiedig â Brwydr Crogen ym 1165. Dylai’r goeden gael gwarchodaeth CADW.

Mae’r goeden mewn lleoliad bregus iawn ger Clawdd Offa yn sir Wrecsam ger y Waun.

 


1.        Cefndir

Coeden hynafol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yw Derwen Adwy'r Meirwon. Mae hi wedi’i lleoli ym mharc Castell y Waun ger Clawdd Offa, a safle Brwydr Crogen 1165. Dywedir bod y goeden dros 1,000 o flynyddoedd oed, ac wedi'i henwi ar gyfer safle claddu tybiedig sy'n gysylltiedig â'r frwydr y bu'n dyst iddi.

Yn 2014, daeth Derwen Adwy’r Meirwon yn nawfed mewn cystadleuaeth ‘coeden y flwyddyn’ ar draws Ewrop. Coed Cadw a’i cynigiodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Er nad oes gan Cadw unrhyw bwerau i warchod coed penodol, mae Derwen Adwy’r Meirwon yn eistedd o fewn parc Castell y Waun, sydd ar y gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol a gedwir gan Weinidogion Cymru.

Fe wnaeth Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddiwygio Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 er mwyn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chadw cofrestr o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru, gan gynnwys parciau a gerddi.

Fel y cyfryw, daeth y gofrestr statudol i rym ar 1 Chwefror 2022, gan ddisodli cofrestr anstatudol flaenorol. Nid yw’r gofrestr statudol yn gosod unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol newydd ar barciau a gerddi hanesyddol Cymru, nac ychwaith yn cyflwyno trefn gydsynio newydd. Mae safleoedd cofrestredig yn parhau i gael y lefel bresennol o warchodaeth, a hynny drwy'r system gynllunio

At hynny, mae’r goeden yn ddarostyngedig i Orchymyn Diogelu Coed (neu TPO). Mae’r gorchymyn hwnnw’n gwahardd torri, dadwreiddio, tocio, difrodi neu ddinistrio coeden yn fwriadol, heb ganiatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Fe wnaeth Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ddiwygio Deddf Coedwigaeth 1967 i godi dirwy ddiderfyn am dorri coed yn anghyfreithlon.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Fe wnaeth Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, ar y pryd, anfon llythyr at y Pwyllgor yn nodi’r amddiffyniadau presennol ar gyfer y goeden. Nododd y llythyr fod polisi cynllunio cenedlaethol Cymru, Polisi Cynllunio Cymru, wedi'i ddiweddaru i gryfhau amddiffyniad ar gyfer pob coeden, gan gynnwys coetir hynafol a choed hynafol, hynod a threftadaeth unigol.

Yn ôl y llythyr, TPO, y mae'r goeden yn destun iddo, yw'r amddiffyniad mwyaf effeithiol i goeden ar hyn o bryd.

Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru “wedi ymrwymo’n gadarn” i warchod coed a choetiroedd hynafol. Dywedodd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, wrthi’n ystyried y dull o gryfhau amddiffyniadau ar gyfer coetiroedd hynafol.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Roedd deiseb flaenorol, P-06-1306 Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed, yn galw am fwy o amddiffyniad i goed hynafol a hynod yn y system gynllunio. Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi’i chwblhau yn ei gyfarfod ar 3 Gorffennaf 2023, gan nodi bod Bil Amaethyddiaeth (Cymru) wedi pasio cyfnod 4 y broses ddeddfwriaethol.

Trafodwyd mwy o amddiffyniad i goetir hynafol a choed hynod yn ystod taith Bil Amaethyddiaeth (Cymru) drwy’r Senedd. Fe wnaeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig argymell yng nghyfnod 1 y dylai Lesley Griffiths AS, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar y pryd, nodi sut y byddai mwy o amddiffyniad i goetir hynafol a choed hynod yn cael sylw.

Ymatebodd y Gweinidog, gan nodi'r angen i gymryd agwedd gyfannol. Nododd welliannau y byddai’r Bil yn eu gwneud i Ddeddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu'r gallu i ychwanegu amodau safle-benodol, neu bwrpasol, at drwyddedau cwympo coed, lle bo'n briodol. At hynny, nododd newidiadau i bolisi cynllunio (gweler uchod), a gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu Coedwig Genedlaethol Cymru a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.